settings icon
share icon
Cwestiwn

Beth y mae yn ei olygu i fod yn Gristion wedi ei eni o'r newydd?

Ateb


Beth y mae yn ei olygu i fod yn Gristion wedi ei eni o'r newydd? Darn clasurol o'r Beibl sy'n ateb y cwestiwn hwn yw Ioan 3:1-21. Mae’r Arglwydd Iesu Grist yn siarad gyda Nicodemus, Pharisead amlwg ac aelod o Gyngor yr Iddewon (yr oedd yn reolwr i’r Iddewon). Daeth Nicodemus at Iesu liw nos. Roedd gan Nicodemus gwestiynau i'w gofyn i Iesu.

Fel yr oedd Iesu’n siarad gyda Nicodemus, dywedodd, “‘Yn wir, yn wir, ‘rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff dyn ei eni o’r newydd ni all weld teyrnas Dduw.’ Meddai Nicodemus wrtho, ‘Sut y gall dyn gael ei eni ac yntau’n hynafgwr? A yw’n bosibl, tybed, iddo fynd i mewn eilwaith i groth ei fam a chael ei eni?’ Atebodd Iesu: ‘Yn wir, yn wir, ‘rwyn’ dweud wrthyt, oni chaiff dyn ei eni o ddŵr a’r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o’r cnawd, cnawd yw, a’r hyn sydd wedi ei eni o’r Ysbryd, ysbryd yw. Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae’n rhaid eich geni chwi o’r newydd.’(Ioan 3:3-7).

Mae’r ymadrodd “geni o’r newydd” yn llythrennol yn golygu “geni oddi uchod”. Roedd gan Nicodemus wir angen. Roedd angen newid ei feddwl—trawsnewidiad ysbrydol. Mae genedigaeth newydd, geni drachefn, yn weithred gan Dduw lle caiff bywyd tragwyddol ei drosglwyddo i’r person sy’n credu (2 Corinthiaid 5:17; Titus 3:5, 1 Pedr 1:3; 1 Ioan 2:29; 3:9; 4:7; 5:1-4, 18). Nodir Ioan 1:12,13 fod “geni o’r newydd” hefyd yn cario’r syniad “i fod yn blant i Dduw” trwy ffydd yn enw Iesu Grist.

Y cwestiwn rhesymegol sy’n dilyn yw, "Pam y mae angen i berson gael ei eni o’r newydd?" Dywed yr Apostol Paul yn Effesiaid 2:1, "Bu adeg pan oeddech chwithau yn feirw o achos eich camweddau a’ch pechodau". I’r Rhufeiniaid yn Rhufeiniaid 3:23, ysgrifennodd yr Apostol, "Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw." Felly, mae angen i berson gael ei eni o’r newydd er mwyn cael maddeuant am ei bechodau a pherthynas gyda Duw.

Sut y daw hynny i fodolaeth? Mynegir yn Effesiaid 2:8-9, "Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw’n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio." Pan gaiff rhywun ei "achub," mae ef neu hi wedi ei eni o’r newydd, wedi ei adnewyddu’n ysbrydol, a bellach yn blentyn i Dduw trwy hawl yr enedigaeth newydd. Ymddiried yn Iesu Grist, yr un sy'n talu'r gosb am ein pechodau pan farwodd ar y groes, yr hyn y mae yn ei olygu i fod wedi ein "geni o’r newydd" yn ysbrydol. "Felly, os yw dyn yng Nghrist, y mae’n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma." (2 Corinthiaid 5:17).

Os nad ydych erioed wedi ymddiried yn yr Arglwydd Iesu Grist fel eich Gwaredwr, a wnewch chi ystyried anogaeth yr Ysbryd Glân fel y mae'n siarad i’ch calon? Yr ydych angen eich geni o’r newydd. A weddïwch chi weddi’r edifeirwch a dod yn greadigaeth newydd yng Nghrist heddiw? "Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw" (Ioan 1 :12-13).

Os ydych eisiau derbyn Iesu Grist fel eich Gwaredwr a chael eich geni o’r newydd, dyma weddi sampl. Cofiwch na fydd adrodd y weddi hon na unrhyw weddi arall yn eich achub. Dim ond trwy roi ffydd yng Nghrist y cewch waredigaeth. Mae’r weddi hon yn ffordd seml i ddatgan i Dduw eich ffydd ynddo ac i ddiolch iddo am ddarparu eich gwaredigaeth. "O Dduw, gwn fy mod wedi pechu yn dy erbyn, a fy mod yn haeddu cael fy nghosbi. Ond cymerodd Iesu Grist y gosb yr wyf fi yn ei haeddu fel, trwy ffydd ynddo ef, gallwn i gael maddeuant. Rhoddaf fy ffydd ynot ti am waredigaeth. Diolch i ti am dy ras rhyfeddol a dy faddeuant – sef bywyd tragwyddol. Amen!”

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Beth y mae yn ei olygu i fod yn Gristion wedi ei eni o'r newydd?
© Copyright Got Questions Ministries