A yw Duw yn bodoli? Oes yna dystiolaeth i profi bodolaeth Duw?




Cwestiwn: A yw Duw yn bodoli? Oes yna dystiolaeth i profi bodolaeth Duw?

Ateb:
A yw Duw yn bodoli? Mae’n ddiddorol fod yna cymaint o ddiddordeb yn y ddadl hon. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae dros 90% o bobol y byd yn credu mewn bodolaeth Duw neu rhyw fod goruchel. Serch hynny, am ryw rheswm mae’r cyfrifoldeb o geisio profi gwir fodolaeth Duw yn cwympo ar y sawl sydd wir yn credu ynddo. Oni fuasai’n gwneud fwy o synnwyr pe bai’r sefyllfa i’r gorthwyneb?

Ond, ni ellir profi na dadbrofi bodolaeth Duw. Mae hyd yn oed y Beibl yn dweud wrthym y dylwn dderbyn drwy ffydd fod Duw yn bodoli. “Mae'n amhosib plesio Duw heb ffydd. Mae'n rhaid i’r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a'i fod yn gwobrwyo pawb sy'n ei geisio o ddifri.” (Hebreaid 11:6). Petai Duw yn dymuno, mi allai ymddangos i bawb a phrofi i’r byd gyfan ei fod yn bodoli. Ond, petai Duw yn gwneud hynny, ni fyddai angen ffydd bellach. “Rwyt ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae’r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio’n fawr.” (Ioan 20:29).

Nid yw hyn yn golygu, fodd bynnag, nad oes yna unrhyw dystiolaeth i brofi bodolaeth Duw. Mae’r Beibl yn dweud “Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Dduw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt, eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd.” (Salmau 19:1-4). Wrth edrych i fynu i’r ser, ac amgyffred yn y bydysawd difawr, rhyfeddu ar fyd natur, ac wrth weld prydferthrwydd yr haul yn machlud – mae’r holl bethau yma yn awgrymu bodolaeth Duw y Creawdwr. Mae yna ragor o dystiolaeth hefyd i brofi fodolaeth Duw - yn ein calonnau. Yn ol Pregethwyr 3:11 “... Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd...” – mae yna rywbeth tu fewn i ni sy’n cydnabod bod yna rywbeth tu hwnt i’r bodolaeth hwn, a rhywbeth tu hwnt i’r byd hwn. Gellir gwadu’r gwybodaeth hyn wrth feddwl yn dduallusol, ond mae presenoldeb Duw ynom ni, a thrwom ni y mae’r presenoldeb hwnnw dal i fod. Wedi dweud hynny, mae’r Beibl yn ein rhybyddio y bydd wastad rhai sydd yn gwadu bodolaeth Duw. “Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, nid oes un Duw” (Salmau 14:1). Gan fod 98% drwy hanes, o bob diwylliant, pob gwlad a phob cyfandir yn credu mewn rhyw fath o Dduw, mae’n rhaid felly bod rhywbeth (neu rhywun) yn achosi’r fath gread.

Mae yna lawer iawn o ddadleuon rhesymegol dros fodolaeth Duw ar wahan i’r dadleuon beiblaidd. I ddechrau, mae yna ddadl ontolegol. Y ffurff mwyaf poblogaeth o’r ddadl ontolegol yw defnyddio’r cysyniad o fodolaeth Duw i brofi ei fodolaeth. Mae’r ddadl ontolegol yn dechrau drwy’r geiriau “ni ellir dirnad yn fwy”. Yna ceir dadl, sef bod bodoli yn uwch na peidio bodoli, a felly mae’n rhaid bod y “bod mwyaf dirnadwy” yn bodoli. Os nad oes yna Dduw, ni fyddai Duw bellach y “bod mwyaf dirnadwy”, a mi fyddai hynny’n mynd yn erbyn y diffiniad o Dduw. Yr ail ddadl yw’r ddadl teleolegol. Yn ol y ddadl hon, gan fod y bydysawd wedi’i ddylunio mor berffaith, mae’r rhaid felly bod yna Ddyluniwr. Er enghraifft, petai’r byd ond ychydig gan milltir yn agosach neu’n bellach wrth yr haul, ni fyddai’n bosib cynnal bywyd fel y mae ar hyn o bryd. Petai’r elfennau yn yr atmosffer ond ychydig yn wahanol, mi fyddai pob peth byw yn y byd yn marw. 1 i 10243 yw’r siawns i un moleciwl protein ddatblygu (sef 10 â 240 ‘0’ ar ei ôl). Mae un gell yn cynnwys miliynau o foliciwlau protein.

Y trydydd ddadl dros fodolaeth Duw yw’r ddadl gosmolegol. Mae’n rhaid bod yna achos i bob effaith. Mae’r bydysawd a phopeth sydd yn y bydysawd yn effaith. Mae’n rhaid bod yna rywbeth a achosodd i bopeth ddod i fodolaeth. Yn y diwedd, mae’n bod yna rywbeth ‘di-achos’ i achosi i bopeth i ddod i fodolaeth. Y bod ‘di achos’ hwnnw yw Duw. Y pedwaredd dadl yw’r ddadl foesol. Mae gan bob ddiwylliant drwy hanes rhyw fath o gyfraith. Mae gan bawb syniad o dda a drwg. Mae llofruddiaeth, celwydd, dwyn a difoeseg yn bethau drwg bron dros y byd i gyd. Os nad oes yna Dduw – o ble y daeth y syniad yma o dda a drwg?

Wedi dweud yr holl bethau yma, mae’r Beibl yn dweud wrthym y bydd pobl yn gwadu’r ffaith di-wad fod yna Dduw, ac yn lle hynny credu mewn celwydd. Yn ol Rhufeiniaid 1:25 “Maen nhw wedi credu celwydd yn lle credu beth sy’n wir am Dduw! Maen nhw’n addoli a gwasanaethu pethau sydd wedi cael eu creu yn lle addoli’r Crëwr ei hun! – yr Un sy’n haeddu ei foli am byth! Amen!”. Mae’r Beibl yn dedfrydu hefyd nad oes yna esgus gan neb i beidio â chredu yn Nuw, “Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi eu creu yn dangos yn glir mai fe ydy'r Duw go iawn, a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!” (Rhufeiniaid 1:20).

Mae rhai yn honni nad ydynt yn credu yn Nuw gan fod credu ‘ddim yn wyddonol’ neu ‘does yna ddim tystiolaeth’. Y rheswm cywir yw unwaith i bobl gydnabod fod yna Dduw, mae’n rhaid felly i ni fod yn deilwng i Dduw a dymuno ei faddeuant (Rhufeinaid 3:23; 6:23). Os yw Duw yn bodoli, felly rydym yn atebol iddo. Os nad yw Duw yn bodoli, felly rydym yn rhydd i wneud fel y dymunwn, heb boeni bod Duw yn ein barnu. Dyma’r rheswm paham y mae pobl yn credu’n gryf mewn esblygiaeth - fel eu bod yn medru credu mewn duw greawdwr arall. Mae Duw yn bodoli, ac yn y bôn, rydym i gyd yn gwybod Ei fod yn bodoli. Mae’r ffaith fod rhai yn ceisio mor galed i ddadbrofi Ei fodolaeth, yn ddadl gref o blaid ei fodolaeth.

Ystyriwn un ddadl arall o blaid bodolaeth Duw. Sut yr ydym yn gwybod bod Duw yn bodoli? Fel Cristnogion, rydym yn gwybod bod Duw yn bodoli gan ein bod ni’n siarad ag Ef bob dydd. Nid ydym yn ei glywed yn ateb nôl, ond medrwn synhwyro Ei bresenoldeb a’i deimlo’n ein harwain. Rydym yn teimlo ei gariad, a’n dymuno ei râs. Mae Duw wedi ein hachyb ni yn wyrthiol a newid ein bywydau, a ni allwn ond derbyn a moli Ei fodolaeth. Ni all y dadleuon hyn brofi bodolaeth Duw eu hunain. Yn y diwedd, mae’n rhaid derbyn bodolaeth Duw drwy ffydd (Hebraid 11:6). Nid yw fudd yn Nuw fel neidio i’r tywyllwch; mae’n naid ddiogel i ystafell ddisglair lle mae 90% o bobl y byd eisioes wedi ymgynyll.



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg



A yw Duw yn bodoli? Oes yna dystiolaeth i profi bodolaeth Duw?