settings icon
share icon
Cwestiwn

Beth yw'r Dull Rhufeiniaid tuag at iachawdwriaeth?

Ateb


Mae’r Dull Rhufeiniaid tuag at iachawdwriaeth yn ffordd o egluro newyddion da iachawdwriaeth drwy ddefnyddio adnodau o Lyfr Rhufeiniaid. Mae'n ddull syml a phwerus i esbonio pam yr ydym angen iachawdwriaeth, sut y darparodd Duw iachawdwriaeth, sut y gallwn dderbyn iachawdwriaeth, a beth yw canlyniadau iachawdwriaeth.

Yr adnod gyntaf yn y Dull Rhufeiniaid tuag at iachawdwriaeth yw Rhufeiniaid 3:23, "Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.” Yr ydym i gyd wedi pechu. Yr ydym i gyd wedi gwneud pethau nad ydynt yn ddymunol i Dduw. Nid oes unrhyw un sydd yn ddieuog. Rhy Rhufeiniaid 3:10-18 ddarlun manwl o sut mae pechod yn edrych yn ein bywydau. Mae’r ail ysgrythur yn y Dull Rhufeiniaid tuag at iachawdwriaeth, Rhufeiniaid 6:23, yn ein dysgu am ganlyniadau pechod - "Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd." Y gosb yr ydym wedi ei hennill trwy ein pechodau yw marwolaeth. Nid marwolaeth corfforol yn unig, ond marwolaeth dragwyddol!

Mae'r drydedd adnod yn y Dull Rhufeiniaid tuag at iachawdwriaeth yn parhau ym mhle adawodd Rhufeiniaid 6:23 ni, "ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd." Mae Rhufeiniaid 5:8 yn datgan, "Ond prawf Duw o’r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.” Bu farw Iesu Grist drosom ni! Talodd marwolaeth Iesu’r pris am ein pechodau. Mae atgyfodiad Iesu yn profi fod Duw wedi derbyn marwolaeth Iesu fel taliad dros ein pechodau.

Y bedwaredd adnod yn y Dull Rhufeiniaid tuag at iachawdwriaeth yw Rhufeiniaid 10:9, "Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â’th enau, ac os credi yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.” Oherwydd marwolaeth Iesu ar ein rhan, y cyfan sy'n rhaid i ni ei wneud yw credu ynddo ef, gan ymddiried yn ei farwolaeth fel y taliad dros ein pechodau - a chawn ein hachub! Dywed Rhufeiniaid 10:13 eto, "bydd pob un sy’n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw." Bu farw Iesu i dalu'r gosb am ein pechodau ac i’n hachub rhag angau tragywyddol. Mae iachawdwriaeth, maddeuant pechodau, ar gael i unrhyw un sy’n ymddiried yn Iesu Grist fel ei Arglwydd a’i waredwr.

Agwedd olaf y Dull Rhufeiniaid tuag at iachawdwriaeth yw canlyniadau iachawdwriaeth. Mae gan Rhufeiniaid 5:1 y neges ryfeddol hon, "Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym feddiant ar heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist." Trwy Iesu Grist gallem gael perthynas heddychlon gyda Duw. Mae Rhufeiniaid 8:1 yn ein dysgu, "Yn awr, felly, nid yw’r rhai sydd yng Nghrist Iesu dan gollfarn o unrhyw fath." Oherwydd marwolaeth Iesu ar ein rhan, ni chawn byth ein condemnio am ein pechodau. Yn olaf, mae gennym yr addewid werthfawr hon gan Dduw yn Rhufeiniaid 8:38-39, "Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd."

A hoffech chi ddilyn y Dull Rhufeiniaid tuag at iachawdwriaeth? Os felly, dyma weddi seml y gallech ei gweddïo. Mae dweud y weddi hon yn ffordd i ddatgan i Dduw eich bod yn ymddiried yn Iesu Grist am eich iachawdwriaeth. Ni all y geiriau eu hunain eich hachub. Dim ond ffydd yn Iesu Grist all ddarparu iachawdwriaeth! "O Dduw, gwn fy mod wedi pechu yn dy erbyn, a fy mod yn haeddu cael fy nghosbi. Ond cymerodd Iesu Grist y gosb yr wyf fi yn ei haeddu fel, trwy ffydd ynddo ef, gallwn i gael maddeuant. Gyda dy gymorth di, rhoddaf fy ffydd ynot ti am iachawdwriaeth. Diolch i ti am dy ras rhyfeddol a dy faddeuant - sef bywyd tragwyddol. Amen!

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Beth yw'r Dull Rhufeiniaid tuag at iachawdwriaeth?
© Copyright Got Questions Ministries