settings icon
share icon
Cwestiwn

Beth yw Cristion?

Ateb


Mae llawer o eiriaduron yn diffinio’r gair “Cristion” fel rhywun sy’n credu yn yr Iesu, neu sydd yn dilyn y crefydd a selwyd ar ei ddysgeidiaeth. Mae hyn yn gyflwyniad da i ddeall beth yn union yw Cristion, ond fel y rhan fwyaf o ddiffiniadau seciwlar, nid yw’n medru cyfleu’r gwirionedd Beiblaidd o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gristion.

Ymddengys y gair Cristion tair gwaith yn y Testament Newydd (Actau 11:26; Actau 26:28; 1 Pedr 4:16). Galwyd dilynwyr Iesu Grist fel “Cristnogion” yn gyntaf yn Antioch (Actau 11:26) gan fod eu hymddygiau, eu gweithgareddau, a’u llefaredd fel Crist. Defnyddiwyd y gair i ddechrau gan bobl Antioch nad oeddent wedi’u gwaredu fel llysenw i greu sbort ar y Cristnogion. Ystr llythrennol y gair yw “perthyn i garfan Crist” neu “credwr neu ddilynwr Crist”, sydd yn debyg iawn i ddifiniad Geiriadur Prifysgol Cymru.

Yn anffodus dros amser mae’r gair “Cristion” wedi colli llawer iawn o’r arwyddocâd, ac fe’i ddefnyddir yn aml am bobl sydd ond yn grefyddol, neu’n foesol, ac nid am rhywun sy’n dilyn Iesu Grist. Mae llawer o bobl sydd ddim yn credu a’n ymddiried yn Iesu Grist yn ystyried eu hunain fel Cristnogion am eu bod yn mynd i’r eglwys, neu eu bod yn byw mewn gwlad “Gristnogol”. Ond nid yw mynd i’r eglwys, gwasanasethu dros rau llai ffodus, na bod yn berson da yn gwneud rhywun yn Gristion. Fel y dywed un efengylwr “Nid yw mynd i’r eglwys yn gwneud rhywun yn fwy o Gristion nag yw mynd i garej yn gwneud rhywun yn gar.” Ni all fod yn aelod o eglwys, mynd i wasanaethau yn aml, na rhoi i’r eglwys eich gwneud yn Gristion.

Mae’r Beibl yn ein dysgu na all weithredoedd da ein gwneud yn dderbyniol i Dduw. Dywed Titus 3:5 wrthym “Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni’n dda, ond am ei fod e’i hun mor drugarog! Golchodd ni’n lân o’n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy'r Ysbryd Glân.” Felly Cristion yw rhywun sydd wedi ei eni o’r newydd drwy Dduw (Ioan 3:3; Ioan 3:7; 1 Pedr 1:23). Dywed Effesiaid 2:8 wrthym mai “Haelioni Duw ydy’r unig beth sy’n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu’r peth. Anrheg Duw ydy e.” Gwir Gristion yw rhywun sydd wedi edifarhau, ac wedi rhoi ei ffydd a’i ymddiriedaeth yn Iesu Grist yn unig. Nid trwy ddilyn crefydd na dilyn rhestr o bethau da a drwg y daw eu hymddiriedaeth.

Gwir Gristion yw rhywun sydd wedi rhoi ei ffydd a’i ymddiriedaeth yn Iesu Grist y person, a’r ffaith y bu farw ar y groes i dalu am ein pechodau, ac fe atgyfododd ar y trydydd dydd i ddangos ei fuddugoliaeth dros farwolaeth, ac i roi bywyd tragwyddol i’r sawl sy’n credu ynddo. Dywed Ioan 1:12 wrthym: “Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn, sef y rhai sy’n credu ynddo, hawl i ddod yn blant Duw.” Gwir Gristion yw plentyn i Dduw, un sy’n rhan o gwir deulu Duw, a rhywun sydd wedi’i eni o’r newydd drwy Grist. Arwydd gwir Gristion yw cariad tuag at eraill, ac ufuddhad i Air Duw (1 Ioan 2:4; 1 Ioan 2:10).

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Beth yw Cristion?
© Copyright Got Questions Ministries