settings icon
share icon
Cwestiwn

Beth yw’r cynllun gwaredigaeth / beth yw’r ffordd i waredigaeth?

Ateb


Ydych chi’n teimlo bod rhywbeth ar goll? Ydych chi’n teimlo bod yna rywbeth ynoch na chaiff ei fodloni? Os mai “ydw” yw eich ateb, Iesu yw’r ffordd. Dywedodd yr Iesu, "Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi ddim yn sychedu." (Ioan 6:35).

Ydych chi ar goll? Ydych chi methu â dod o hyd i lwybr neu bwrpas yn eich bywyd? Ydych chi’n teimlo ei fod petai rhywun wedi diffodd y goleuni, a’ch bod chi methu â dod o hyd i’r swits? Os mai “ydw” yw eich ateb, Iesu yw’r ffordd! Dywedodd yr Iesu, " Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy’n fy nilyn i olau i’w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch. " (Ioan 8:12).

Ydych chi’n teimlo eich bod wedi cloi allan o fywyd? Ydych chi wedi ceisio agor drysau, ond yn dod o hyd i wacter a tywyllwch? Ydych chi’n chwilio am ffordd i fywyd gwell? Os mai “ydw” yw eich ateb, Iesu yw’r ffordd. Dywedodd yr Iesu, " Fi ydy'r giât, a’r rhai sy'n mynd i mewn trwof fi sy’n ddiogel. Byddan nhw’n mynd i mewn ac allan, ac yn dod o hyd i borfa. " (Ioan 10:9).

Ydych chi’n teimlo bod pobl yn eich gadael i lawr? Ydych chi’n teimlo bod eich eich perthnasau ag eraill yn wag ac yn ddibwrpas? Ydych chi’n teimlo bob pawb yn ceisio cymeryd mantais ohonoch? Os mai “ydw” yw eich ateb, Iesu yw’r ffordd. Dywedodd yr Iesu, "I Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid.... Fi ydy'r bugail da. Dw i’n nabod fy nefaid fy hun a maen nhw'n fy nabod i " (Ioan 10:11, 14).

Ydych chi’n meddwl am beth sydd tu hwnt i’r bywyd hwn? Ydych chi wedi cael digon o fyw eich bywyd am behau sydd ond yn pydru neu’n rhydu? Ydych chi’n amau weithiau os oes yna ystr o gwbl i fywyd? Ydych chi eisiau byw ar ôl i chi farw? Os mai “ydw” yw eich ateb, Iesu yw’r ffordd. Dywedodd yr Iesu, " Fi ydy'r atgyfodiad a'r bywyd. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; a bydd y rhai sy’n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. " (Ioan 11:25-26).

Beth yw y ffordd? Beth yw y gwirionedd? Beth yw bywyd? Ateb Iesu oedd, " "Fi ydy'r ffordd ... fi ydy’r un gwir, a'r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi. " (Ioan 14:6).

Rydych yn teimlo bod angen rhywbeth ysbrydol – a dim ond yr Iesu all eich helpu. Iesu yw’r un all dod â goleuni. Iesu yw’r drws i fywyd gwell. Iesu yw’r ffrind a’r bugail yr ydych wedi bod yn chwilio amdano. Iesu yw’r bywyd – yn y bywyd hwn a’r bywyd sydd i ddod. Iesu yw’r ffordd i waredigaeth!

Y rheswm dros teimlo bod rhywbeth ar goll, y rheswm eich bod ar goll yn y tywyllwch, y rheswm na fedrwch ddod o hyd i fywyd gwell yw eich bod wedi gwahanu wrth Dduw. Dywed y Beibl wrthom ein bod ni i gyd yn bechaduriaid, ac felly wedi gwahanu wrth Dduw (Pregethwyr 7:20; Rhufeiniaid 3:23). Mae angen Duw arnoch yn eich bywyd i lenwi’r gwagle yn eich calon. Fe’m crewyd i gael perthynas â Duw. O ganlyniad i’n pechodau, ni fedrwm cael y berthnas hon. Ac yn waeth fyth, fe gawn ein gwahanu wrth Dduw am byth, yn y byd hwn a’r byd sydd i ddod o ganlyniad i’n pechodau (Rhufeiniaid 6:23; Ioan 3:36).

Syt y gallwn ddatrus y broblem hon? Iesu yw’r ffordd? We wnaeth Duw Iesu yn offrwm dros bechod (2 Corinthiaid 5:21). Bu farw’r Iesu yn ein lle ni (Rhufeiniaid 5:8), gan gymeryd y gosb yr ydym ni yn ei haeddu. Fe atgyfododd yr Iesu ar y trydydd dydd, gan brofi ei fuddugoliaeth dros bechod a marwolaeth. (Rhufeiniaid 6:4-5). Paham y gwnaeth e felly? Atebodd yr Iesu y cwestiwn hyn ei hunan, " Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau " (Ioan 15:13). Bu farw’r Iesu fel ein bod ni’n medru byw. Os rhoddwn ein ffydd yn yr Iesu, gan ymddiried yn ei farwolaeth fel tâl am ein pechodau – golchir ymaeth ein holl bechodau, a chawn faddeuant. Yna fe gawn yr ysbryd. Cawn olenuni. Cawn fywyd gwell. Cawn wybod mai ein gwir ffrind gorau a’n bugail. Cawn wybod i ble yr ewn ar ol i ni farw – cawn ein hatgyfodi, fel ein bod yn byw ar ôl marwolaeth – bywyd tragwyddol yn y nefoedd gyda’r Iesu.

"Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol." (Ioan 3:16).

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Beth yw’r cynllun gwaredigaeth / beth yw’r ffordd i waredigaeth?
© Copyright Got Questions Ministries