Cwestiwn
Ai’r Beibl yw Gair Duw mewn gwirionedd?
Ateb
Yn ogystal â phenderfynu sut yr ydym ni’n gweld y Beibl a’i bwysigrwydd i’n bywydau, bydd ein hateb i’r cwestiwn hefyd yn cael effaith tragwyddol arnom yn y pen draw. Os mai’r Beibl yw Gair Duw mewn gwirionedd, yna fe ddylem ni ei drysori, ei astudio, ufuddhau iddo, ac ymddiried ynddo yn llawn. Os mai’r Beibl yw Gair Duw, yna mae diystyru’r Beibl yn golygu diystyru Duw ei hun.
Mae’r ffaith fod Duw wedi rhoi’r Beibl i ni yn dystiolaeth ac yn ddarlun o’i gariad tuag atom. Yr hyn y mae’r term "datguddiad" yn ei olygu yw bod Duw wedi mynegi ei natur a sut y gallwn gael perthynas iawn gydag ef i’r ddynolryw. Mae’r rhain yn bethau na allem fod wedi eu gwybod pe na bai Duw wedi eu datgelu nhw i ni yn y Beibl. Er bod datguddiad Duw ohono ei hun yn y Beibl wedi ei roi yn raddol dros gyfnod o oddeutu 1500 o flynyddoedd, mae’n wastad wedi cynnwys popeth y mae angen i’r ddynoliaeth ei wybod am Dduw er mwyn cael perthynas iawn gydag ef. Os mai’r Beibl yw Gair Duw mewn gwirionedd, yna’r Beibl yw’r awdurdod terfynol ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â ffydd, arferion crefyddol, a moesoldeb.
Y cwestiwn y mae’n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain yw sut y gallwn wybod mai Gair Duw yw’r Beibl ac nid llyfr da yn unig? Beth sy’n unigryw am y Beibl, sy’n ei osod ar wahân i’r holl lyfrau crefyddol eraill a ysgrifennwyd erioed? A oes unrhyw dystiolaeth mai’r Beibl yw Gair Duw mewn gwirionedd? Mae’n rhaid archwilio’r mathau hyn o gwestiynau o ddifrif os ydym am ddarganfod dilysrwydd y Beibl, sy’n honni mai Gair Duw ydyw, a ysbrydolwyd yn ddwyfol, a’i fod yn gwbl ddigonol ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â ffydd ac arferion crefyddol. Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw’r Beibl yn honni mai Gair Duw ydyw. Gwelir hyn yn glir yng nghymeradwyaeth Paul i Timotheus: “... a’th fod er yn blentyn yn gyfarwydd â’r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i’th wneud yn ddoeth a’th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu. Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir pob un sy’n perthyn i Dduw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.” (2 Timotheus 3:15-17).
Ceir tystiolaeth fewnol ac allanol mai Gair Duw yw’r Beibl. Y dystiolaeth fewnol yw’r pethau hynny yn y Beibl sy’n tystio i’w darddiad dwyfol. Gwelir un o’r tystiolaethau mewnol cyntaf mai’r Beibl yw Gair Duw yn ei undod. Er mai 66 o lyfrau unigol ydyw mewn gwirionedd, a ysgrifennwyd ar dri chyfandir, mewn tair iaith wahanol, dros gyfnod o oddeutu 1500 o flynyddoedd, gan dros 40 o awduron o wahanol gefndiroedd, mae’r Beibl yn parhau i fod yn un llyfr unedig o’r dechrau i’r diwedd heb wrthddywediadau. Mae’r undod hwn yn unigryw o’i gymharu â phob llyfr arall ac mae’n dystiolaeth o darddiad dwyfol y geiriau a gofnodwyd gan ddynion a symudwyd gan Dduw i wneud hynny.
Mae’r proffwydoliaethau a geir yn ei dudalennau yn dystiolaeth fewnol arall sy’n dangos mai Gair Duw yw’r Beibl. Mae’r Beibl yn cynnwys cannoedd o broffwydoliaethau manwl sy’n ymwneud â dyfodol gwledydd unigol gan gynnwys Israel, dinasoedd penodedig, a’r ddynolryw. Mae proffwydoliaethau eraill yn ymwneud â dyfodiad y Meseia, sef Gwaredwr pawb a gredo ynddo ef. Yn wahanol i’r proffwydoliaethau a geir mewn llyfrau crefyddol eraill neu’r rhai gan ddynion megis Nostradamus, mae proffwydoliaethau’r Beibl yn eithriadol o fanwl. Ceir dros dri chant o broffwydoliaethau ynghylch Iesu Grist yn yr Hen Destament. Yn ogystal â rhagfynegi ymhle y byddai’n cael ei eni a’i linach, mae hefyd yn rhagfynegi sut y byddai’n marw ac y byddai’n atgyfodi. Nid oes ffordd resymegol i egluro’r proffwydoliaethau a gyflawnir yn y Beibl heblaw drwy darddiad dwyfol. Nid oes unrhyw lyfr crefyddol arall gyda’r graddau na’r math o broffwydoliaethau rhagfynegol a geir yn y Beibl.
Yn drydydd, mae ei awdurdod a’i bŵer unigryw yn dystiolaeth fewnol o darddiad dwyfol y Beibl. Er bod y dystiolaeth hon yn fwy goddrychol na’r ddwy gyntaf, mae’r un mor bwerus fel tystiolaeth o darddiad dwyfol y Beibl. Mae awdurdod y Beibl yn annhebyg i unrhyw lyfr arall a ysgrifennwyd erioed. Gwelir yr awdurdod a’r pŵer hwn orau yn y ffordd y trawsnewidiwyd bywydau dirifedi gan bŵer goruwchnaturiol Gair Duw. Mae ef wedi gwella pobl sy’n gaeth i gyffuriau a throseddwyr diedifar, rhyddhau cyfunrhywiaid, trawsnewid gwrthodedigion a diogwyr, ceryddu pechaduriaid, a throi casineb yn gariad. Mae’r Beibl yn meddu ar bŵer deinamig a thrawsnewidiol sydd ond yn bosibl oherwydd mai Gair Duw ydyw.
Ceir tystiolaethau allanol hefyd sy’n dangos mai Gair Duw yw’r Beibl mewn gwirionedd. Mae hanesoldeb y Beibl yn un ohonynt. Oherwydd bod y Beibl yn manylu ar ddigwyddiadau hanesyddol, mae ei eirwiredd a’i gywirdeb yn destun gwiriadau fel unrhyw ddogfen hanesyddol arall. Trwy dystiolaethau archeolegol ac ysgrifau eraill, mae cyfrifon hanesyddol y Beibl wedi cael eu profi i fod yn gywir ac yn wir dro ar ôl tro. Yn wir, mae’r holl dystiolaeth archeolegol a’r dystiolaeth ar ffurf llawysgrifau sy’n cefnogi’r Beibl yn ei wneud y llyfr o’r byd hynafol a ddogfennir orau. Mae’r ffaith bod y Beibl yn cofnodi digwyddiadau y gellir eu gwirio yn hanesyddol yn gywir ac yn onest yn arwydd ardderchog o’i onestrwydd wrth ymdrin â phynciau crefyddol ac athrawiaethau, ac mae hynny’n helpu i gadarnhau ei honiad mai Gair Duw yw ef.
Mae uniondeb ei awduron dynol yn dystiolaeth allanol arall sy’n cadarnhau mai Gair Duw yw’r Beibl. Fel y soniwyd yn gynharach, fe ddefnyddiodd Duw ddynion o wahanol gefndiroedd i gofnodi ei eiriau. Wrth astudio bywyd y dynion hyn, fe’u canfyddwn nhw yn onest ac yn ddiffuant. Mae’r ffaith eu bod nhw’n barod i farw marwolaethau a oedd yn ddirdynnol yn aml dros yr hyn a gredent yn tystio bod y dynion cyffredin, ond gonest, hyn yn credu o ddifrif bod Duw wedi siarad â nhw. Roedd y dynion a ysgrifennodd y Testament Newydd a channoedd lawer o gredinwyr eraill (1 Corinthiaid 15:6) yn gwybod gwirionedd eu neges oherwydd eu bod nhw wedi gweld Iesu Grist ar ôl iddo atgyfodi oddi wrth y meirw, a threulio amser gydag ef. Fe gafodd gweld y Crist atgyfodedig effaith aruthrol arnynt. Aethant o guddio mewn ofn i fod yn barod i farw dros y neges yr oedd Duw wedi ei datgelu iddynt. Mae eu bywydau a’u marwolaethau yn tystio i’r ffaith mai gair Duw yw’r Beibl mewn gwirionedd.
Tystiolaeth allanol terfynol mai Gair Duw yw’r Beibl mewn gwirionedd yw’r anallu i ddistrywio’r Beibl. Oherwydd ei bwysigrwydd a’i honiad mai Gair Duw ydyw, mae’r Beibl wedi dioddef mwy o ymosodiadau milain ac ymdrechion i’w ddinistrio nag unrhyw lyfr arall mewn hanes. O Ymerawdwyr Rhufeinig cynnar megis Diocletian, i unbeniaid comiwnyddol ac ymlaen at anffyddwyr ac agnostigiaid cyfoes, mae’r Beibl wedi gwrthsefyll a goroesi ei holl ymosodwyr, a’r Beibl yw’r llyfr a gyhoeddir yn fwyaf eang yn y byd hyd heddiw.
Ar hyd yr amser, mae amheuwyr wedi ystyried y Beibl yn fytholeg, ond mae archeoleg wedi cadarnhau ei fod yn hanesyddol. Mae gwrthwynebwyr wedi ymosod ar ei ddysgeidiaeth fel un sy’n gyntefig ac yn hen ffasiwn, ond mae ei gysyniadau a’i ddysgeidiaeth foesol a chyfreithiol wedi cael dylanwad cadarnhaol ar gymdeithasau a diwylliannau ar hyd a lled y byd. Mae’n parhau i ddioddef ymosodiadau gan fudiadau gwleidyddol, seicoleg, a ffugwyddorau, ond eto, mae’n parhau i fod yr un mor wir a pherthnasol heddiw ag yr oedd pan ysgrifennwyd ef yn gyntaf. Mae’n llyfr sydd wedi trawsnewid bywydau a diwylliannau dirifedi drwy gydol y 2000 o flynyddoedd diwethaf. Ni waeth sut mae ei wrthwynebwyr yn ceisio ymosod arno, ei ddinistrio, neu daflu amheuaeth arno, mae’r Beibl yma o hyd; ac mae ei gywirdeb a’i effaith ar fywydau yn ddigamsyniol. Mae ei gywirdeb, a gadwyd er gwaethaf pob ymgais i’w lygru, i ymosod arno, neu i’w ddinistrio, yn dystiolaeth glir i’r ffaith mai Gair Duw yw’r Beibl mewn gwirionedd a’i fod wedi ei ddiogelu ganddo ef. Ni ddylai fod yn syndod i ni, ni waeth sut yr ymosodir ar y Beibl, ei fod yn dod allan bob amser heb ei newid a heb ei niweidio. Wedi’r cyfan, dywedodd Iesu, “Y nef a’r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim” (Marc 13:31). Ar ôl edrych ar y dystiolaeth, gellir dweud heb amheuaeth mai Gair Duw yw’r Beibl mewn gwirionedd.
English
Ai’r Beibl yw Gair Duw mewn gwirionedd?