Cwestiwn
Ai Duw yw’r Iesu? A wnaeth yr Iesu fyth honni mai Duw ydoedd?
Ateb
Nid yw’n dweud yn y Beibl fod yr Iesu wedi dweud yr union eiriau, “Myfi yw Duw”. Ond nid yw hyn yn golygu iddo beidio â dedfrydu mai Duw ydoedd. Ystyriwch, er enghraifft geiriau’r Iesu yn Ioan 10:30, “Dw i a'r Tad yn un.” I ddechrau efallai ni ellir ystyried hyn fel Iesu’n honni mai Duw ydyw. Ond, sylwch ar ymateb yr Iddewon i’r hyn a ddywedodd, “"Dyn ni ddim yn dy labyddio am wneud unrhyw beth da," atebodd yr arweinwyr Iddewig, "ond am gablu! Am dy fod ti sydd ond yn ddynol, yn honni mai Duw wyt ti.” (Ioan 10:33). Fe ddeallodd yr Ieddewon eiriau’r Iesu fel ymhoniad mai Duw ydoedd. Yn yr adnodau sy’n dilyn, sylwch nad yw Iesu’n cywiro’r Iddewon drwy ddweud “nid Duw ydwyf.” Mae hyn yn awgrymu bod yr Iesu yn dweud o ddifrif mai Duw ydoedd, gan ddatgan “Dw i a'r Tad yn un.” (Ioan 10:30). Mae enghraifft arall yn Ioan 8:58. Mae’r Iesu yn datgan, " Credwch chi fi – dw i’n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni." Unwaith eto, mae’r Iddewon yn ymateb trwy godi cerrig a cheisio ei labyddio (Ioan 8:59). Paham y byddai’r Iddewon am labyddio’r Iesu os nad oedd wedi dweud rhywbeth yr oeddent yn credu i fod yn gabledd, sef honni mai Duw ydoedd?
Dywed Ioan 1:1 mai “Duw oedd y Gair.” Mae Ioan 1:14 yn dweud “Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed.” Mae hyn yn dangos yn glir mai Duw yn y cnawd oedd yr Iesu. Dywed Actau 20:28, "... Bugeilio eglwys Dduw fel mae bugail yn gofalu am ei braidd – dyma’r eglwys wnaeth Duw ei phrynu’n rhydd â'i waed ei hun!" Pwy yw’r un a brynodd yr eglwys yn rhydd â’i waed ei hun? Iesu Grist. Mae Actau 20:28 yn datgan mai Duw a brynodd yr eglwys a’i waed ei hun. Felly, Duw yw’r Iesu.
Mae’r disgybl Tomos, gan gyfeirio at yr Iesu, yn datgan, “Fy Arglwydd a'm Duw” (Ioan 20:28). Nid yw’r Iesu yn ei gywiro. Mae Titus 2:13 yn ein annog i ddisgwyl am ddyfodiad Duw a’n Gwaredwr– Iesu Grist (gweler hefyd 2 Peter 1:1). Mae’r Tad yn datgan am yr Iesu yn Hebreaid 1:8, " Ond am y Mab mae Duw'n dweud hyn: "Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth, a byddi’n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn.’"
Mae’r angel yn dweud wrth yr Apostol Ioan i addoli Duw yn unig yn Datguddiad (Datguddiad 19:10). Fe addolir yr Iesu yn aml yn yr ysgrythur (Mathew 2:11; 14:33; 28:9,17; Luc 24:52; Ioan 9:38). Nid yw’r Iesu yn dweud wrth bobl i beidio a’i addoli. Os nad Duw oedd yr Iesu, mi fyddai wedi dweud i beidio a’i addoli, fel yr hyn a ddywedodd yr angel yn Datguddiad. Mae yna lawer o adnodau eraill yn yr Ysgrythur sy’n dadlau dros ddwyfoldeb yr Iesu.
Dyma’r ddadl bwysycaf dros y ffaith mai Duw yw’r Iesu: Os nad Duw yw’r Iesu, ni fyddai ei farwolaeth wedi bod yn ddigonol i dalu am bechodau’r byd oll (1 Ioan 2:2). Dim ond Duw allai fod wedi talu’r gost eithaf. Dim ond Duw allai fod wedi cymeryd pechodau’r byd i gyd (2 Corinthiaid 5:21), drwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad – gan brofi ei fuddugoliaeth dros bechod a marwolaeth.
English
Ai Duw yw’r Iesu? A wnaeth yr Iesu fyth honni mai Duw ydoedd?