Cwestiwn
Ai Iesu yw’r unig ffordd i’r nefoedd?
Ateb
Ie, Iesu yw’r unig ffordd i’r nefoedd. Gallai datganiad mor unigryw ddrysu, synnu, neu ddigio rhywun hyd yn oed, ond er hynny oll, y gwir ydyw. Dysga’r Beibl nad oes unrhyw ffordd arall at iachawdwriaeth heblaw Iesu Grist. Dywed Iesu ei hun yn Ioan 14:6, “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.” Nid un o lawer o ffyrdd yw ef, ond yr unig ffordd. Ni waeth am ei enw da, ei gyflawniadau, ei wybodaeth arbennig, na’i sancteiddrwydd personol, ni all neb ddod at Dduw y Tad ond drwy Iesu.
Ceir sawl rheswm pam mai Iesu yw’r unig ffordd i’r nefoedd. Etholir Iesu gan Dduw i fod y Gwaredwr (1 Pedr 2:4). Iesu yw'r unig un sydd wedi dod i lawr o'r nefoedd a dychwelyd yno (Ioan 3:13). Ef yw'r unig berson sydd wedi byw bywyd dynol perffaith (Hebreaid 4:15). Ef yw'r unig aberth dros bechodau (1 Ioan 2:2; Hebreaid 10:26). Ef yn unig sydd wedi cyflawni’r Gyfraith a'r Proffwydi (Mathew 5:17). Ef yw'r unig ddyn sydd wedi gorchfygu marwolaeth am byth (Hebreaid 2:14–15). Ef yw'r unig gyfryngwr rhwng Duw a dynion (1 Timotheus 2:5). Ef yw'r unig ddyn y mae Duw wedi ei dra-ddyrchafu (Philipiaid 2:9).
Siaradodd Iesu amdano ef ei hun gan ddweud mai ef yw’r unig ffordd i'r nefoedd mewn sawl lle heblaw Ioan 14:6. Cyflwynodd ei hun yn wrthrych ffydd yn Mathew 7:21–27. Dywedodd mai bywyd yw ei eiriau (Ioan 6:63). Addawodd y bydd y rhai sy'n credu ynddo ef yn cael bywyd tragwyddol (Ioan 3:14–15). Ef yw drws y defaid (Ioan 10:7); bara’r bywyd (Ioan 6:35); a’r atgyfodiad (Ioan 11:25). Ni all neb arall hawlio'r teitlau hynny'n briodol.
Roedd pregethau’r apostolion yn canolbwyntio ar farwolaeth ac atgyfodiad yr Arglwydd Iesu. Gan siarad â'r Sanhedrin, dywedodd Pedr yn glir mai Iesu yw’r unig ffordd i'r nefoedd: “Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i’r ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo” (Actau 4:12). Gan siarad â'r synagog yn Antioch, nododd Paul mai Iesu yw’r Gwaredwr: “Felly bydded hysbys i chwi, frodyr, mai trwy hwn y cyhoeddir i chwi faddeuant pechodau, a thrwy hwn y rhyddheir pawb sy’n credu oddi wrth yr holl bethau nad oedd modd eich rhyddhau trwy Gyfraith Moses” (Actau 13:38–39). Gan ysgrifennu at yr eglwys yn gyffredinol, noda Ioan mai enw Crist yw sail ein maddeuant: “Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, blant, am fod eich pechodau wedi eu maddau drwy ei enw ef” (1 Ioan 2:12). Ni all neb ond Iesu faddau pechodau.
Trwy Iesu Grist yn unig y gwneir bywyd tragwyddol yn y nefoedd yn bosibl. Gweddïodd Iesu, “A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist” (Ioan 17:3). I dderbyn rhodd Duw, sef Iachawdwriaeth yn ddi-dâl, mae’n rhaid i ni edrych ar Iesu ac arno ef yn unig. Mae’n rhaid i ni ymddiried mai marwolaeth Iesu ar y groes yw’r taliad dros bechodau ac ymddiried yn ei atgyfodiad ef. “[O]nd cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy’n credu” (Rhufeiniaid 3:22).
Ar un adeg yn ystod gweinidogaeth Iesu, roedd llawer o'r dorf yn troi eu cefnau arno ac yn gadael, gan obeithio dod o hyd i waredwr arall. Gofynnodd Iesu i’r Deuddeg, “A ydych chwithau hefyd, efallai, am fy ngadael?” (Ioan 6:67). Ond, mae ateb Pedr yn hollol gywir: “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti, ac yr ydym ni wedi dod i gredu a gwybod mai ti yw Sanct Duw” (Ioan 6:68–69). Boed i bob un ohonom rannu ffydd Pedr mai yn Iesu Grist yn unig y ceir bywyd tragwyddol.
Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.
English
Ai Iesu yw’r unig ffordd i’r nefoedd?