Cwestiwn
A yw Duw yn wir? Sut y gallaf wybod yn sicr bod Duw yn wir?
Ateb
Rydym ni’n gwybod bod Duw yn wir oherwydd ei fod ef wedi datgelu ei hun i ni mewn tair ffordd: drwy’r greadigaeth, drwy ei Air, a thrwy ei Fab, Iesu Grist.
Y prawf mwyaf sylfaenol o fodolaeth Duw yw’r hyn y mae ef wedi ei wneud. “Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a’i dduwdod, i’w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus.” (Rhufeiniaid 1:20). “Y mae’r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.” (Salmau 19:1).
Pe baech yn dod o hyd i watsh yng nghanol cae, ni fyddech yn cymryd yn ganiataol ei bod wedi “ymddangos” o ddim neu ei bod wedi bodoli erioed. Yn seiliedig ar ddyluniad y watsh, fe fyddech yn tybio bod ganddi ddylunydd. Serch hynny, mae llawer mwy o waith dylunio a manylder yn y byd o’n cwmpas ni. Nid yw’r ffordd yr ydym ni’n mesur amser yn seiliedig ar watshis, ond ar waith llaw Duw — cylchdro rheolaidd y ddaear (a phriodweddau ymbelydrol yr atom cesiwm-133). Mae’r bydysawd yn arddangos dyluniad mawr, ac mae hyn yn ddadl dros Ddylunydd Mawr.
Pe byddech chi’n dod o hyd i neges amgodedig, fe fyddech chi’n ceisio torri’r cod. Eich tybiaeth fyddai bod gan y neges anfonwr deallus, rhywun a greodd y cod. Pa mor gymhleth yw’r “cod” DNA a gariwn ym mhob cell o’n cyrff? Onid yw cymhlethdod a phwrpas DNA yn ddadl dros Awdur Deallus y cod?
Yn ogystal â byd ffisegol cymhleth a manwl gyweiriedig, mae Duw wedi trwytho ymdeimlad o dragwyddoldeb yng nghalon pob unigolyn (Pregethwr 3:11). Mae gan y ddynoliaeth ganfyddiad cynhenid bod mwy i fywyd na’r hyn a ymddengys ar yr olwg gyntaf, bod yna fodolaeth uwch na’r arferion daearol hyn. Mae ein hymdeimlad o dragwyddoldeb yn amlygu ei hun mewn dwy ffordd o leiaf: wrth inni ddeddfu ac wrth inni addoli.
Mae pob gwareiddiad drwy gydol hanes wedi gwerthfawrogi deddfau moesol penodol, sy’n rhyfeddol o debyg o un diwylliant i’r llall. Er enghraifft, edmygir delfryd cariad gan bawb, tra bod y weithred ddweud celwydd yn cael ei gondemnio gan bawb. Mae’r moesoldeb cyffredin hwn—y ddealltwriaeth gyffredinol o dda a drwg—yn pwyntio at Fod Moesol Goruchaf a roes y fath ddirnadaeth inni.
Yn yr un modd, mae pobl ym mhob cwr o’r byd, ni waeth beth fo’u diwylliant, wedi meithrin system addoli erioed. Gall gwrthrych yr addoliad hwnnw amrywio, ond mae’r ymdeimlad o “bŵer uwch” yn rhan ddiymwad o fod yn ddynol. Mae ein tuedd i addoli yn cyd-fynd â’r ffaith bod Duw wedi ein creu ni “ar ei ddelw ei hun” (Genesis 1:27).
Mae Duw wedi datgelu ei hun i ni trwy ei Air, y Beibl, hefyd. Caiff bodolaeth Duw ei thrin fel ffaith hunanamlwg trwy’r holl Ysgrythurau (Genesis 1:1; Exodus 3:14). Pan fo dyn yn ysgrifennu hunangofiant, nid yw’n gwastraffu amser yn ceisio profi ei fodolaeth ei hun. Yn yr un modd, nid yw Duw yn treulio llawer o amser yn profi ei fodolaeth yn ei lyfr ef. Dylai natur y Beibl sy’n newid bywydau, ei uniondeb, a’r gwyrthiau a oedd yn cyd-fynd â’r broses o’i ysgrifennu fod yn ddigon i gyfiawnhau golwg agosach.
Y drydedd ffordd y mae Duw wedi datgelu ei hun yw trwy ei Fab, Iesu Grist (Ioan 14:6-11). “Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad” (Ioan 1:1,14; gweler hefyd Colosiaid 2:9).
Ym mywyd rhyfeddol Iesu, fe gadwodd holl gyfraith yr Hen Destament yn berffaith a chyflawnodd y proffwydoliaethau yn ymwneud â’r Meseia (Mathew 5:17). Gwnaeth weithredoedd o dosturi a gwyrthiau cyhoeddus dirifedi er mwyn dilysu ei neges a dwyn tyst i’w dduwdod (Ioan 21:24-25). Yna, dri diwrnod ar ôl iddo gael ei groeshoelio, cododd o’r meirw, ffaith a gadarnhawyd gan gannoedd o lygad-dystion (1 Corinthiaid 15:6). Mae digonedd o gofnodion hanesyddol sy’n “profi” pwy yw Iesu. Fel y dywedodd yr Apostol Paul, “nid mewn rhyw gongl y gwnaed hyn” (Actau 26:26).
Rydym ni’n sylweddoli y bydd amheuwyr bob amser sydd â’u syniadau eu hunain am Dduw ac rydym ni’n darllen y dystiolaeth yn unol â hynny. A bydd rhai pobl a fydd yn mynnu rhagor o brawf yn wastad er mwyn eu hargyhoeddi nhw (Salmau 14:1). Mater o ffydd yw hi yn y pen draw (Hebreaid 11:6).
English
A yw Duw yn wir? Sut y gallaf wybod yn sicr bod Duw yn wir?