Cwestiwn
Sut y gallaf i fod ar delerau da gyda Duw?
Ateb
Er mwyn bod ar delerau "da" gyda Duw, mae’n rhaid i ni ddeall yn gyntaf beth yw’r broblem. Pechod yw’r broblem honno. "[N]id oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un." (Salmau 14:3). Rydym ni wedi gwrthryfela yn erbyn gorchmynion Duw; rydym ni "wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i’w ffordd ei hun" (Eseia 53:6).
Y newyddion drwg yw mai marwolaeth yw’r gosb am bechod. "[Y] sawl sy’n pechu fydd farw" (Eseciel 18:4). Y newyddion da yw bod Duw cariadus wedi ein dilyn ni er mwyn dod ag iachawdwriaeth i ni. Datganodd Iesu mai ei fwriad oedd ceisio ac achub y colledig (Luc 19:10), a chyhoeddodd fod ei fwriad wedi ei gyflawni pan fu farw ar y groes gyda’r geiriau, "Gorffennwyd" (Ioan 19:30).
Y cam cyntaf i gael perthynas iawn gyda Duw yw cydnabod eich pechodau. Y cam nesaf yw cyffesu eich pechodau yn ostyngedig i Dduw (Eseia 57:15). "Oherwydd credu â’r galon sy’n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â’r genau sy’n esgor ar iachawdwriaeth" (Rhufeiniaid 10:10).
Mae’n rhaid i’r edifeirwch hwn gyd-fynd â ffydd – yn benodol, ffydd fod marwolaeth aberthol ac atgyfodiad gwyrthiol Iesu yn ei gymhwyso ef i fod yn Waredwr i chi. "Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â’th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub" (Rhufeiniaid 10:9). Mae llawer o ddarnau eraill o’r Beibl sy’n sôn am angenrheidrwydd ffydd, megis Ioan 20:27; Actau 16:31; Galatiaid 2:16; 3:11, 26; ac Effesiaid 2:8.
Eich ymateb chi i’r hyn y mae Duw wedi ei wneud ar eich rhan yw bod ar delerau da gyda Duw. Anfonodd y Gwaredwr, darparodd yr aberth i ddiddymu eich pechod (Ioan 1:29), ac mae’n cynnig yr addewid canlynol i chi: "[B]ydd pob un sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub" (Actau 2:21).
Ceir darlun hyfryd o edifeirwch a maddeuant yn nameg y mab afradlon (Luc 15:11-32). Gwastraffodd y mab iau rodd ei dad mewn pechod cywilyddus (adnod 13). Ar ôl cydnabod ei gamwedd, penderfynodd ddychwelyd adref (adnod 18). Tybiodd na fyddai’n cael ei ystyried yn fab mwyach (adnod 19), ond roedd ef yn anghywir. Carai’r tad y rebel a ddychwelodd gymaint ag erioed (adnod 20). Maddeuwyd y cyfan, a chynhaliwyd dathliad (adnod 24). Mae Duw yn ffyddlon i gadw ei addewidion, gan gynnwys yr addewid i faddau. "Y mae’r Arglwydd yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu’r briwedig o ysbryd" (Salmau 34:18).
Os ydych chi’n dymuno bod ar delerau da gyda Duw, dyma weddi enghreifftiol. Cofiwch na wnaiff dweud y weddi hon nac unrhyw weddi arall yn eich achub chi. Dim ond ymddiried yn Iesu Grist a all eich gwaredu chi oddi wrth bechodau. Ffordd o fynegi i Dduw eich ffydd ynddo ef ac o ddiolch iddo am ddarparu iachawdwriaeth i chi yw’r weddi hon. "O Dduw, gwn fy mod i wedi pechu yn dy erbyn a’m bod i’n haeddu cael fy nghosbi. Ond cymerodd Iesu Grist y gosb yr wyf yn ei haeddu, fel y gallaf gael maddeuant drwy ffydd ynddo ef. Ymddiriedaf ynot ti am iachawdwriaeth. Diolch am dy ras bendigedig a’th faddeuant - sef y rhodd o fywyd tragwyddol! Amen!"
Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.
English
Sut y gallaf i fod ar delerau da gyda Duw?