Cwestiwn
Sut y gallaf wybod yn sicr y byddaf yn mynd i’r nefoedd pan fyddaf i’n marw?
Ateb
A ydych chi’n gwybod yn sicr bod gennych chi fywyd tragwyddol ac y byddwch yn mynd i’r nefoedd pan fyddwch yn marw? Mae Duw eisiau i chi fod yn siŵr! Dywed y Beibl: “Yr wyf yn ysgrifennu’r pethau hyn atoch chwi, y rhai sy’n credu yn enw Mab Duw, er mwyn ichwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol” (1 Ioan 5:13). Dychmygwch eich bod chi’n sefyll gerbron Duw yn awr a’i fod ef yn gofyn i chi, “Pam y dylwn i eich gadael chi i’r nefoedd?” Beth a fyddech chi’n ei ddweud? Efallai na fyddech yn gwybod beth i’w ddweud. Yr hyn y mae angen i chi ei wybod yw bod Duw yn ein caru ni a’i fod ef wedi darparu ffordd o wybod yn sicr ble y byddwn yn treulio tragwyddoldeb. Dyma sut y mae'r Beibl yn dweud hyn: “Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol” (Ioan 3:16).
Mae’n rhaid i ni ddeall yn gyntaf y broblem sy’n ein cadw ni o’r nefoedd. Dyma’r broblem - mae ein natur bechadurus ni’n ein cadw ni rhag cael perthynas â Duw. Pechaduriaid ydym ni o ran natur ac o ddewis. “Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw” (Rhufeiniaid 3:23). Ni allwn achub ein hunain. “Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw’n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio” (Effesiaid 2:8-9). Marwolaeth ac uffern yr ydym ni’n eu haeddu. “Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth” (Rhufeiniaid 6:23).
Mae Duw yn sanctaidd ac yn gyfiawn ac mae’n rhaid iddo gosbi pechod, er hynny, mae ef yn ein caru ni ac wedi darparu maddeuant ar gyfer ein pechodau. Dywedodd Iesu: “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi” (Ioan 14:6). Bu farw Iesu drosom ni ar y groes: “Oherwydd dioddefodd Crist yntau un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i’ch dwyn chwi at Dduw” (1 Pedr 3:18). Fe atgyfodwyd Iesu oddi wrth y meirw: “Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a’i gyfodi i’n cyfiawnhau ni” (Rhufeiniaid 4:25).
Felly, gan ddychwelyd at ein cwestiwn gwreiddiol – “Sut y gallaf wybod yn sicr y byddaf yn mynd i’r nefoedd pan fyddaf i’n marw?" Yr ateb yw hyn – credwch yn yr Arglwydd Iesu Grist ac fe gewch eich achub (Actau 16:31). “Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw” (John 1:12). Gallwch gael bywyd tragwyddol, yn anrheg, AM DDIM. “... rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd” (Rhufeiniaid 6:23). Gallwch fyw bywyd llawn ac ystyrlon yn awr. Dywedodd Iesu: “Yr wyf wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder” (John 10:10). Gallwch dreulio tragwyddoldeb gydag Iesu yn y nefoedd, oherwydd ei fod ef wedi addo: “Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi” (John 14:3).
Os ydych chi’n dymuno derbyn Iesu Grist yn Waredwr a chael maddeuant oddi wrth Dduw, dyma weddi y gallwch ei gweddïo. Ni wnaiff dweud y weddi hon nac unrhyw weddi arall yn eich achub chi. Dim ond ymddiried yn Iesu Grist a all ddarparu maddeuant dros bechodau. Ffordd o fynegi i Dduw eich ffydd ynddo ef ac o ddiolch iddo am gynnig maddeuant i chi yw’r weddi hon. "O Dduw, gwn fy mod i wedi pechu yn dy erbyn a’m bod i’n haeddu cael fy nghosbi. Ond cymerodd Iesu Grist y gosb yr wyf yn ei haeddu, fel y gallaf gael maddeuant drwy ffydd ynddo ef. Ymddiriedaf ynot ti am iachawdwriaeth. Diolch am dy ras bendigedig a’th faddeuant! Amen!"
Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.
English
Sut y gallaf wybod yn sicr y byddaf yn mynd i’r nefoedd pan fyddaf i’n marw?