settings icon
share icon
Cwestiwn

Rwyf newydd rhoi fy ffydd yn Iesu Grist... Peth sydd nesaf?

Ateb


Rwyf newydd rhoi fy ffydd yn Iesu Grist... Peth sydd nesaf?

Llongyfarchiadau! Rydych chi newydd wneud penderfyniad a fydd yn newyd eich bywyd! Efallai eich bod yn gofyn i’ch hunan, “Beth sydd nesaf? Sut allaf ddechrau fy nhaith â Duw?” Mi fydd y pum cam isod o gyngor ac yn rhoi arweiniaeth i chi. Pan fydd cwestiynau gydach chi am eich taith, ewch i https://www.gotquestions.org/Cymraeg.

1. Gwnewch yn sicr eich bod yn deall gwaredigaeth.

Dywed 1 Ioan 5:13 wrthym, “Dw i wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch chi sy'n credu ym Mab Duw er mwyn i chi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol.” Mae Duw’n dymuno ein bod ni’n deall ein gwaredigaeth. Mae Duw’n dymno bod gennym hyder ein bod yn gwybod yn iawn ein bod wedi ein gwaredi. Gadewch i ni felly ystyried yr pwyntiau allweddol.

(a) Rydym ni i gyd yn bechaduriaid. Rydym wedi gwneud pethau nad yw Duw yn bles ohonynt (Rhufeiniaid 3:23).

(b) Rydym yn haeddu cael ein cosbi am ein pechodau drwy gael ein gwahanu’n dragwyddol wrth Dduw o (Rhufeiniaid 6:23).

(c) Bu farw’r Iesu ar y groes i dalu’r gosb am ein pechodau (Rhufeiniaid 5:8, 2 Corinthiaid 5:21). Bu farw’r Iesu ar y groes drosom ni, gan gymeryd y gosb yr ydym ni yn ei haeddu. Drwy ei atgyfodiad, fe brofwyd bod marwolaeth Iesu yn ddigonol i dalu am ein pechodau.

(d) Mae Duw yn maddau a’n gwaredu’r sawl sydd yn rhoi eu ffydd yn yr Iesu – gan ymddiried yn ei farwolaeth i dalu am ein pechodau (Ioan 3:16; Rhufeiniaid 5:1; Rhufeiniaid 8:1).

Dyna neges ein gwaredigaeth! Os yr ydych wedi rhoi eich ffydd yn Iesu Grist fel eich gwaredwr, rydych wedi derbyn gwaredigaeth! Maddeuwyd eich holl bechodau ac mae Duw yn addo peidio â’ch gadael (Rhufeiniaid 8:38-39; Mathew 28:20). Cofiwch, mae eich gwaredigaeth yn ddiogel â Iesu Grist (Ioan 10:28-29). Os oes gennych ffydd yn yr Iesu grist fel eich gwaredwr, byddwch yn sicr o fywyd tragwyddol gyda Duw yn y nefoedd.

2. Chwiliwch am Eglwys dda sy’n dysgu’r Beibl.

Peidiwch â meddwl am yr eglwys fel adeilad. Y bobl sy’n gwneud yr eglwys. Mae’n bwysig iawn fod y sawl sy’n credu yn Iesu Grist mewn cymundeb. Dyna un o brif bwrpasau’r eglwys. Gan eich bod wedi rhoi eich ffydd yn Iesu Grist, awgrymwn i chi chwilio am eglwys yn eich ardal s’n credu yn y Beibl a siarad gyda’r gweinidog. Rhowch wybod iddo am eich ffydd newydd yn Iesu Grist.

Ail bwrpas yr eglwys yw i’ch dysgu am y Beibl. Gallwch ddysgu sut i gymwyso dysgeidiaeth Duw yn eich bywyd. Deall y Beibl yw’r ffordd i fyw bywyd Cristnogol llwyddiannus a phwrerus. Dywed 2 Timotheus 3:16-17, “Duw sydd wedi ysbrydoli'r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw’n dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dyn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn. Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da.”

Trydydd pwrpas yr eglwys yw addoli. Addoli yw diolch i Dduw am yr holl bethau y mae wedi’i wneud. Mae Duw wedi ein gwaredu. Mae’n ein caru. Mae’n darparu i ni. Mae’n ein tywys a’n hyfforddi. Sut y medrwn peidio â’i ddiolch? Mae Duw yn sanctaidd, yn gyfiawn, yn gariadus, yn drugarog, a’n llawn gras. Mae Datguddiad 4:11 yn datgan, “Ein Harglwydd a'n Duw!

Rwyt ti'n deilwng o'r clod a'r anrhydedd a'r nerth. Ti greodd bob peth; ac mae popeth wedi eu creu ac yn bodoli am mai dyna oeddet ti eisiau.”

3. Penderfynwch ar amser bob dydd i feddwl am Dduw.

Mae’n bwysig iawn i ni dreulio amser bob dydd i feddwl am Dduw. Mae rhai yn galw hyn yn “amser dawel.” Mae eraill yn ei alw’n “ymroddiad”, gan mai dyma’r amser i ni ymroi ein hunain i Dduw. Mae gwell gan rai i wneud hyn yn y bore, tra bod gwell gan eraill yr hwyr. Nid bwysig beth yr ydych yn galw’r amser hyn, nac ychwath pryd yr ydych yn dewis ei wneud. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn treilio amser â Duw yn am. Pa fath o weithgareddau allwn wneud i dreulio amser â Duw?

(a) Gweddio. Yn syml, gweddio yw siarad gyda Duw. Siaradwch â Duw am eich problemau a’r hyn sy’n eich poenu. Gofynwch i Dduw i roi o’i ddoethuneb a’i arweiniad. Gofynwch i Dduw i ddarparu ar gyfer eich anghenion. Dwedwch wrth Dduw cymaint yr ydych yn ei garu, ac yn gwerthfawrogi iddo am bopeth y mae’n ei wneud drosoch. Dyna diben gweddio.

(b) Darllen y Beibl. Ar wahân i ddysgu am y Beibl yn yr Eglwys, Ysgol Sul, astudio’r beibl – mae’n rhaid i chi ddarllen y Beibl eich hunan. Mae’r Beibl yn cynnwys yr holl beth fydd angen arnoch i fyw bywyd llwyddiannus fel Cristion. Mae’n cynnwys arweiniad Duw ar sut i wneud penderfyniadau doeth, sut i ddeall ewyllys Duw, sut i wasanaethu eraill, a sut i dyfu’n ysbrydol. Y Beibl yw Geiriau Duw i ni. Yn y bôn, llawlyfr yw’r Beibl ar sut i fyw bywyd sy’n plesio Duw, ac sydd yn ein boddhau.

4. Datblygwch berthynas â phobl all eich helpu’n ysbrydol.

Dywed 1 Corinthians 15:33 wrthym, “Peidiwch cymryd eich camarwain, achos ‘mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.’” Mae’r Beibl llawn rhybyddion am ddylanwad pobl “drwg” arnom. Mae treilio amser â phobl sydd yn gwneud gweithgareddau drwg yn ein hannog i wneud yr un modd. Mi fydd cymeriad y bobl yma yn trosglwyddo i ni. Dyna paham y mae mor bwysig i fod gyda phobl eraill sy’n caru’r Arglwydd ac sydd wedi ymrwymo iddo.

Chwiliwch am ffrind neu ddau, o’ch eglwys efallai, a all eich helpu a’ch cynorthwyo (Hebreaid 3:13; 10:24). Gofynwch i’ch ffrindiau i wneud yn siwr eich bod yn treilio amser â Duw ac i gerdded y llwybr gyda Duw. Gofynwch os allwch chi wneud yr un peth iddyn nhw. Nid yw hyn yn golygu bod rhaid i chi roi’r gorau i’ch holl ffrindiau – y sawl nad ydynt yn cydnabod yr Arglwydd Iesu fel eu gwaredwr. Rhowch wybod iddynt fod yr Iesu wedi newid eich bywyd a na allwch bellach wneud yr holl bethau yr oeddwch arfer eu gwneud. Gofynwch i Dduw i roi cyfleoedd i chi rannu’r Iesu â’ch ffrindiau.

5. Ewch i gael eich bedyddio.

Mae llawer o bobl yn camddeall y syniad o fedyddio. Mae’r gair “bedydd” yn golygu cael eich trochi â dŵr. Bedydd yw’r ffordd Beiblaidd o ddatgan eich ffydd newydd yng Nghrist i bawb, a’ch ymroddiad i’w ddilyn. Mae’r weithred o gael eich trochi â dŵr yn symbol o gael eich claddu gada Christ. Mae’r weithred o ddod allan o’r dŵr yr un peth ag atgyfodiad Crist. Trwy gael eich bedyddio, rydych yn uniaethu eich hunan â marwolaeth, claddu ac atgyfodiad Crist (Rhufeiniaid 6:3-4).

Nid bedydd sydd yn eich gwaredu. Nid bedydd sydd yn golchu ymaith eich pechodau. Ffordd o ufuddhau yw bedydd, ffordd o ddatgan yn gyhoeddus eich ffydd a’ch ymroddiad i’r Iesu. Os yr ydych yn barod i gael eich bedyddio, dylwch siarad â gweinidog.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Rwyf newydd rhoi fy ffydd yn Iesu Grist... Peth sydd nesaf?
© Copyright Got Questions Ministries