Cwestiwn
Beth yw priodoleddau Duw? Beth yw natur Duw?
Ateb
Dywed y Beibl, Gair Duw, wrthym beth yw natur Duw a beth nad yw natur Duw. Heb awdurdod y Beibl, ni fyddai unrhyw ymgais i esbonio priodoleddau Duw yn ddim gwell na barn, sydd ar ei ben ei hun yn anghywir yn aml, yn enwedig o ran deall Duw (Job 42:7). Mae’n bwysig i ni geisio deall natur Duw, a dweud y lleiaf. Gall methu â gwneud hynny achosi i ni wneud, mynd ar drywydd, ac addoli duwiau ffug, yn groes i’w ewyllys ef (Exodus 20:3-5).
Dim ond yr hyn y mae Duw wedi dewis ei ddatgelu amdano ef ei hun y gellir ei wybod. Un o briodoleddau neu rinweddau Duw yw “goleuni”, sy'n golygu ei fod yn amlygu ei hun o ran gwybodaeth amdano (Eseia 60:19; Iago 1:17). Ni ddylid anwybyddu’r ffaith fod Duw wedi datgelu gwybodaeth amdano ei hun (Hebreaid 4:1). Bydd creadigaeth, y Beibl, a’r Gair a wnaed yn gnawd (Iesu Grist) yn ein helpu ni i wybod beth yw natur Duw.
Gadewch i ni ddechrau drwy ddeall mai Duw yw ein Creawdwr, ein bod ni’n rhan o’i greadigaeth ef (Genesis 1:1; Salmau 24:1), a’n bod ni wedi ein creu ar ei ddelw ef. Mae dyn yn uwch na gweddill y greadigaeth, a rhoddwyd arglwyddiaeth iddo drosti (Genesis 1:26-28). Er bod y greadigaeth wedi ei difetha gan y cwymp, mae’n dal i gynnig cipolwg ar waith Duw (Genesis 3:17-18; Rhufeiniaid 1:19-20). Drwy ystyried ehangder, cymhlethdod, prydferthwch, a threfn y greadigaeth, gallwn gael ymdeimlad o aruthredd Duw.
Gall darllen drwy rai o enwau Duw fod yn ddefnyddiol wrth i ni chwilio am briodoleddau Duw. Maent fel a ganlyn:
Elohim - Un cryf, dwyfol (Genesis 1:1)
Adonäi - Arglwydd, gan nodi perthynas Meistr â’i was (Exodus 4:10, 13)
El Elion - Goruchaf, y cryfaf (Genesis 14:20)
El Roi - yr Un cryf sy’n gweld (Genesis 16:13)
El Shadai - Duw Hollalluog (Genesis 17:1)
El Olam - Duw tragwyddol (Eseia 40:28)
Iafe - ARGLWYDD “Ydwyf”, sy’n golygu y Duw hunanfodol tragwyddol (Exodus 3:13, 14).
Mae Duw yn dragwyddol, sy’n golygu nad oedd ganddo ddechrau ac na fydd ei fodolaeth byth yn dod i ben. Mae ef yn anfarwol ac yn anfeidrol (Deuteronomium 33:27; Salmau 90:2; 1 Timotheus 1:17). Mae Duw yn ddigyfnewid, sy’n golygu nad yw ef yn newid; yn ei dro, mae hyn yn golygu bod Duw yn gwbl ddibynadwy ac yn gwbl deilwng o ymddiriedaeth (Malachi 3:6; Numeri 23:19; Salmau 102:26, 27). Mae Duw yn ddigyffelyb; nid oes neb tebyg iddo o ran gweithredoedd na bodolaeth. Mae ef heb ei debyg ac yn berffaith (2 Samuel 7:22; Salmau 86:8; Eseia 40:25; Mathew 5:48). Mae Duw yn anchwiliadwy, yn annirnadwy, ac y tu hwnt i’n gallu ni i’w ddeall ef yn llwyr (Eseia 40:28; Salmau 145:3; Rhufeiniaid 11:33, 34).
Mae Duw yn gyfiawn; nid yw’n dangos ffafriaeth (Deuteronomium 32:4; Salmau 18:30). Mae Duw yn hollalluog a gall wneud unrhyw beth y mae’n dymuno, ond bydd ei weithredoedd yn unol â gweddill ei gymeriad bob amser (Datguddiad 19:6; Jeremeia 32:17, 27). Mae Duw yn hollbresennol, sy’n golygu ei fod yn bresennol ym mhobman, ond nid yw hyn yn golygu mai Duw yw popeth (Salmau 139:7-13; Jeremeia 23:23). Mae Duw yn hollwybodol, sy’n golygu ei fod yn gwybod y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, gan gynnwys yr hyn yr ydym yn ei feddwl ar unrhyw adeg benodol. Gan ei fod ef yn gwybod popeth, fe weinyddir ei gyfiawnder yn deg bob amser (Salmau 139:1-5; Diarhebion 5:21).
Un Duw yw Duw; nid oes un arall, ef yn unig sy’n gallu diwallu anghenion dyfnaf a dyheadau ein calonnau. Duw yn unig sy’n deilwng o’n haddoliad a’n hymroddiad (Deuteronomium 6:4). Mae Duw yn gyfiawn, sy’n golygu na all Duw anwybyddu camweddau, ac ni wnaiff ef hynny. Oherwydd cyfiawnder Duw, er mwyn maddau inni am ein pechodau, bu rhaid i Iesu brofi digofaint Duw pan roddwyd ein pechodau arno ef (Exodus 9:27; Mathew 27:45-46; Rhufeiniaid 3:21-26).
Mae Duw yn sofran, sy’n golygu mai ef yw’r goruchaf. Ni all ei holl greadigaeth gyda’i gilydd rwystro ei amcanion (Salmau 93:1; 95:3; Jeremeia 23:20). Ysbryd yw Duw, sy’n golygu ei fod ef yn anweledig (Ioan 1:18; 4:24). Trindod yw Duw. Un yn dri yw ef ac mae pob un yr un fath o ran sylwedd ac yn gyfartal o ran gallu a gogoniant. Gwirionedd yw Duw, bydd ef yn parhau i fod yn anllygredig ac ni all ef ddweud celwydd (Salmau 117:2; 1 Samuel 15:29).
Mae Duw yn sanctaidd. Mae ef ar wahân i bob halogiad moesol, gan eu gwrthwynebu nhw. Gwêl Duw bob drygioni ac maent yn ei ddigio ef. Cyfeirir at Dduw fel tân yn ysu (Eseia 6:3; Habacuc 1:13; Exodus 3:2, 4-5; Hebreaid 12:29). Mae Duw yn raslon, ac mae ei ras yn cynnwys ei ddaioni, ei garedigrwydd, ei drugaredd, a’i gariad. Oni bai am ras Duw, byddai ei sancteiddrwydd yn ein gwahardd ni o’i bresenoldeb ef. Diolch i’r drefn, nid felly y mae hi; ar y llaw arall, mae ef yn dymuno adnabod pob un ohonom ni’n bersonol (Exodus 34:6; Salmau 31:19; 1 Pedr 1:3; Ioan 3:16, 17:3).
Gan fod Duw yn fod anfeidrol, ni all unrhyw fod dynol ateb y cwestiwn enfawr hwn yn llawn, ond gallwn ddeall llawer am bwy yw Duw a beth yw ei natur drwy ddarllen ei Air. Gadewch i bob un ohonom geisio â’i gael ei â’n holl galonnau (Jeremeia 29:13).
English
Beth yw priodoleddau Duw? Beth yw natur Duw?