Cwestiwn
Pwy yw’r Ysbryd Glân?
Ateb
Ceir llawer o gamsyniadau am hunaniaeth yr Ysbryd Glân. Mae rhai yn gweld yr Ysbryd Glân fel grym cyfriniol. Mae eraill yn deall yr Ysbryd Glân fel y pŵer amhersonol y mae Duw yn ei ddarparu i ddilynwyr Iesu Grist. Beth y mae’r Beibl yn ei ddweud am hunaniaeth yr Ysbryd Glân? Yn syml, mae’r Beibl yn datgan mai Duw yw’r Ysbryd Glân. Mae'r Beibl yn dweud wrthym hefyd fod yr Ysbryd Glân yn berson dwyfol, yn fod sydd â meddwl, emosiynau, ac ewyllys.
Mae’r ffaith mai Duw yw’r Ysbryd Glân i’w weld yn glir mewn llawer o Ysgrythurau, gan gynnwys Actau 5:3-4. Yn yr adnod hon mae Pedr yn wynebu Ananias ynglŷn â pham y dywedodd gelwydd wrth yr Ysbryd Glân ac yn dweud wrtho nad wrth ddynion y dywedodd gelwydd ond wrth Dduw. Mae’n ddatganiad clir mai dweud celwydd wrth Dduw yw dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân. Hefyd, gallwn wybod mai Duw yw’r Ysbryd Glân oherwydd ei fod yn meddu ar nodweddion Duw. Er enghraifft, gwelir ei hollbresenoldeb yn Salmau 139:7-8, “I ble yr af oddi wrth dy ysbryd? I ble y ffoaf o’th bresenoldeb? Os dringaf i’r nefoedd, yr wyt yno; os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.” Yna yn 1 Corinthiaid 2:10-11, fe welwn y nodwedd o fod yn hollwybodol yn yr Ysbryd Glân. “Eithr datguddiodd Duw hwy i ni trwy'r Ysbryd. Oblegid y mae’r Ysbryd yn plymio pob peth, hyd yn oed ddyfnderoedd Duw. Oherwydd pwy sy’n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw.”
Gallwn wybod mai person dwyfol yw’r Ysbryd Glân oherwydd ei fod yn meddu ar feddwl, emosiynau, ac ewyllys. Mae’r Ysbryd Glân yn meddwl ac yn gwybod (1 Corinthiaid 2:10). Gellir tristáu’r Ysbryd Glân (Effesiaid 4:30). Mae’r Ysbryd yn ymbil drosom (Rhufeiniaid 8:26-27). Mae’n gwneud penderfyniadau yn ôl ei ewyllys (1 Corinthiaid 12:7-11). Duw yw’r Ysbryd Glân, trydydd Person y Drindod. Yn Dduw, gall yr Ysbryd Glân weithredu fel yr Eiriolwr a’r Cynghorwr yr addawodd Iesu y byddai (Ioan 14:16, 26, 15:26).
English
Pwy yw’r Ysbryd Glân?